Oedi wrth gyflwyno teithiau dyddiol i Doha
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Qatar Airways wedi gorfod torri nôl ar y gwasanaeth o faes awyr Caerdydd am y tro oherwydd "yr oedi wrth sicrhau digon o awyrennau."
Fe fydd y gwasanaeth fydd yn dechrau o 1 Mai, yn cael ei leihau o saith diwrnod yr wythnos i bum diwrnod tan ganol Mehefin.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Oherwydd peth oedi wrth gyflenwi awyrennau fe fydd Qatar Airways yn cynnig gwasanaeth o bum diwrnod yr wythnos tan ganol Mehefin.
"Ar ôl hynny fe fyddwn yn cynnig hediadau dyddiol. "
Ni fydd yna wasanaeth uniongyrchol o Gaerdydd i Doha ar ddyddiau Llun ac Iau tan 18 Mehefin.
Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn aildrefnu teithiau ar gyfer cwsmeriaid sydd eisoes wedi archebu ar y dyddiau yma.
Dywedodd Deb Barber, prif weithredwr maes awyr Caerdydd: "Mae dros 1.4 miliwn o geiswyr y flwyddyn o'r rhanbarth yn teithio i gyrchfannau sydd ar gael drwy rwydwaith Qatar Airways - ac ar hyn o bryd mae 90% o'r bobl hyn yn mynd o feysydd awyr yn Llundain. "