Rhybudd o rew ac eira yn y gogledd

rhybudd rhew ac eira Image copyright Getty Images

Mae yna rybudd y gallai teithiau ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd yn y gogledd gymryd yn hwy na'r disgwyl ddydd Sul oherwydd eira a rhew.

Fe wnaeth y Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn - byddwch yn barod - sy'n dod i rym am 05:00 dydd Sul ac yn para tan 23:55.

Mae'r Swyddfa yn darogan rhwng 2-5 cm o eira ar dir uchel, gyda pheth eira hefyd mewn ardaloedd eraill.

Mae rhybudd i yrwyr a cherddwyr y gallai ffyrdd sydd heb eu graeanu fod yn llithrig.