Brexit: 'Rhaid cadw perthynas agos ag Iwerddon'

caergybi
Image caption Dyw Carwyn Jones ddim am ddargyfeirio traffig o borthladdoedd Cymru

Mae gan wleidyddion ac arweinwyr busnes yng Ngweriniaeth Iwerddon "bryderon difrifol" fod y DU yn anelu at Brexit caled, yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Ar ôl cwrdd â chynrychiolwyr yn Nulyn ddydd Llun, dywedodd Mr Jones bod "neb ei eisiau, ond does gyda nhw ddim ffydd mewn gwleidyddion i allu ei osgoi".

Ychwanegodd na allai weld sut y gall Llywodraeth y DU lwyddo yn ei nod o beidio bod o fewn yr undeb dollau ac osgoi archwiliadau ar y ffin rhwng Iwerddon a'r DU.

Wrth baratoi i ymweld â Dulyn fe ddywedodd Mr Jones na all gefnogi cytundeb Brexit a fyddai'n effeithio ar fasnach rhwng Cymru ac Iwerddon.

Dywedodd bod Llywodraeth Cymru "wedi ymrwymo'n llwyr" i broses heddwch Iwerddon ond ei bod yn gwrthwynebu unrhyw ganlyniad a fyddai'n dargyfeirio traffig i ffwrdd o borthladdoedd Cymru.

Ychwanegodd Carwyn Jones mai parhau i fod yn aelod o undebau tollau gyda'r Undeb Ewropeaidd a pharhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl oedd yr "opsiwn gorau" ar gyfer y DU ar ôl Brexit.

  • Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2017, fe allforiodd Cymru nwyddau gwerth £955m i Weriniaeth Iwerddon - y bedwaredd wlad uchaf o ran allforion Cymru.
  • Mae dros 50 o gwmnïau Gwyddelig yng Nghymru, yn eu plith mae Dawn Meats yng ngorllewin Cymru a Kingspan yn Sir y Fflint, sy'n cyflogi 2,500 o bobl.
  • Mae dros 70% o nwyddau Gwyddelig sy'n teithio i'r UE ac oddi yno yn teithio drwy borthladdoedd Cymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd y DU yn gadael undeb tollau a marchnad sengl yr UE yn dilyn Brexit.

Mae undeb tollau yr UE yn lleihau rhwystrau masnachol a gweinyddol fel archwiliadau a thaliadau tollau rhwng aelodau'r undeb - gan gynnwys y DU ac Iwerddon.

Ond nid yw aelodau'r undeb tollau yn gallu cyrraedd cytundebau masnach rhyngwladol annibynnol - un o flaenoriaethau Downing Street wedi Brexit.

Mae pryder y gallai dychwelyd i archwilio tollau ar y ffin yn Iwerddon arwain at drafferthion unwaith eto.

'Ffin forwrol galed yn fygythiad'

Fel rhan o'r cytundeb gyda'r UE ym mis Rhagfyr, yng ngham cyntaf trafodaethau Brexit, cytunodd Llywodraeth y DU na fyddai yna "ffin galed" rhwng y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon yn dilyn Brexit.

Mae'r cytundeb hefyd yn dweud na fydd yna "rwystrau rheoleiddiol newydd" rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU.

Fe fyddai ffin forwrol 'galed' rhwng ynys Iwerddon a Phrydain yn fygythiad i economïau Cymru ac Iwerddon, yn ôl prif weinidog Cymru.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae cychod o borthladd Caergybi yn ogystal â phorthladd Abergwaun yn cario pobl a nwyddau i Iwerddon

Dywedodd Carwyn Jones: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llawn i wneud ei rhan i gefnogi Cytundeb Gwener y Groglith, ond does dim modd i mi gefnogi unrhyw ganlyniad a fyddai'n gwyro'r traffig oddi wrth Gaergybi, Abergwaun a Doc Penfro tuag at rannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

"Rhaid sicrhau tegwch rhwng Prydain ac Iwerddon. Dydw i ddim eisiau gweld ffin galed ar ynys Iwerddon, ond dwi i ddim chwaith eisiau gweld safleoedd tollau ym mhorthladdoedd Cymru.

"Dyna pam mai'r opsiwn gorau yw i'r Deyrnas Unedig yn gyfan barhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl a bod yn aelod o undeb tollau.

"Byddai hynny'n datrys y broblem hon yn llwyr.

"Dyna hefyd sydd orau i economïau Cymru ac Iwerddon ac, yn wir, i economïau'r DU yn gyfan. Ac fel yr ydyn ni wedi gwneud yn glir, ddylai ymadael â'r UE ddim effeithio ar drefniadau'r Ardal Deithio Gyffredin."

Yn ystod ei ymweliad, bydd y prif weinidog hefyd yn bresennol mewn trafodaeth Brexit dan gadeiryddiaeth Siambr Fasnach Prydain ac Iwerddon, yn ymweld ag Irish Ferries ac yn cyfarfod â llysgennad Prydain ac aelodau Cymdeithas Seneddol Prydain ac Iwerddon.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol