Pro 14: Benetton 22-12 Scarlets

Johnny McNicholl Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Fe wnaeth camgymeriad gan Johnny McNicholl yn arwain at gais cyntaf Benetton

Colli oedd hanes y Scarlets yn Stadio Monigo yn Treviso ddydd Sul.

Benetton oedd yn rheoli'r gêm ac roedd y Scarlets yn amddiffyn yn wan.

Cafodd yr asgellwr Monty Ioane dri chais a llwyddodd yr eilydd Marco Zanon i gael y pedwerydd, gydag un trosiad llwyddiannus gan Tito Tebaldi.

Unig ateb y Scarlets oedd cais gan yr eilydd Corey Baldwin ac un arall gan y blaenasgellwr Tadhg Bierne, ynghyd ag un trosiad gan Dan Jones.

Roedd gan y Scarlets 12 o'u tîm cyntaf yn absennol ar ddyletswydd rhyngwladol gyda Chymru, ond roedd Benetton yn wynebu sefyllfa debyg gyda 15 o'u chwaraewyr hwythau yn nhîm yr Eidal.

Dyma'r tro cyntaf i Benetton guro'r Scarlets, a hynny yn y 12fed gêm rhyngddyn nhw.

Mae'r canlyniad yn golygu fod y Scarlets wedi colli'r cyfle i ddringo i frig Adran B yn y Pro14, gyda Leinster yn aros ar y brig.

Mae Benetton yn parhau yn bumed ond wedi closio peth at Gaeredin sydd yn y pedwerydd safle.

Pynciau Cysylltiedig