Olympau'r Gaeaf: Deas gyflymaf

laura deas Image copyright Getty Images

Mae'r Gymraes Laura Deas wedi cael diwrnod da o ymarfer yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Pyeongchang, De Corea.

Deas oedd y cyflymaf wrth ymarfer ar gyfer cystadleuaeth y sled sgerbwd fydd yn cael ei chynnal ddydd Gwener.

Roedd hi'n gynt na'r bencampwraig Olympaidd Lizzie Yarnold, oedd yn bedwerydd wedi'r ddwy ras ymarfer.

Deas oedd yn ail gyflymaf yn y ras gyntaf mewn amser o 52.36 - 0.012 y tu ôl i Janine Flock o Awstria, ond yn yr ail ras roedd Deas 0.02" yn gynt na Flock.

Enillodd y ferch 29 oed o Wrecsam ei buddugoliaeth gyntaf yng Nghwpan y Byd nôl yn 2015, ac roedd yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth 2017.

Pynciau Cysylltiedig