Gwerthu holl docynnau Penwythnos Mwyaf Radio 1 Abertawe

Penwythnos Mwyaf Radio 1

Mae'r holl docynnau ar gyfer Penwythnos Mwyaf Radio 1 yn Abertawe eleni bellach wedi ei gwerthu.

Fe aeth y tocynnau ar gyfer y ddau ddiwrnod ym Mharc Singleton ar werth am 07:45 fore Llun, ac o fewn 35 munud roedden nhw i gyd wedi mynd.

Cafodd pobl oedd yn byw yn ardal Abertawe flaenoriaeth wrth brynu tocynnau, gyda rhai hefyd wedi'u cadw ar gyfer pobl o rannau eraill yn ne Cymru.

Bydd Taylor Swift ac Ed Sheeran ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio ddydd Sadwrn 27 Mai a dydd Sul 28 Mai.

Pobl leol

Mae'n rhan o benwythnos o adloniant gan y BBC ar draws y DU y penwythnos hwnnw, gyda gwyliau hefyd wedi'u trefnu yn Belfast, Perth a Coventry.

Roedd 26,000 o docynnau ar gael ar gyfer pob diwrnod yr ŵyl yn Abertawe.

Fe aeth 60% o'r tocynnau ar werth i bobl oedd yn byw yn ardal Cyngor Abertawe, gyda 25% yn rhagor ar gael i drigolion eraill yn ardaloedd côd post Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Llandrindod.

Image caption Bydd Ed Sheeran a Taylor Swift yn perfformio yn Abertawe fis Mai

Roedd gweddill y 15% ar gael i bobl o bob rhan o'r DU.

Ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio ar y dydd Sadwrn yn Abertawe mae Ed Sheeran, Craig David, Jess Glynne, Wolf Alice, ac Years & Years.

Ar y dydd Sul bydd Taylor Swift, Niall Horan, J Hus a James Bay ymysg y perfformwyr.

Mae gwybodaeth am docynnau i holl ddigwyddiadau'r Penwythnos Mwyaf ar gael yma.

Pynciau Cysylltiedig