BBC Cymru Fyw

Mam yn sefydlog wedi gwrthdrawiad Gellilydan laddodd dwy

Published
image captionBu farw Mili Wyn Ginniver ac Anna Williams yn y gwrthdrawiad ger Gellilydan

Mae gyrrwr car oedd mewn gwrthdrawiad laddodd ei merch a'i chwaer yn parhau yn yr ysbyty, fis wedi'r digwyddiad.

Bu farw Mili Wyn Ginniver, oedd yn chwe mis oed ac o Flaenau Ffestiniog, ac Anna Williams, 22 ac o Benrhyndeudraeth, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori ar yr A487 yng Ngellilydan ar 11 Ionawr.

Mae mam Mili, Sioned Williams yn parhau mewn cyflwr sefydlog ar ôl cael ei hedfan i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad.

  • Gwrthdrawiad A487: Cyhoeddi enwau dwy
  • Teyrnged tad i'w 'angel fach brydferth'

Fe wnaeth y gymuned leol gasglu miloedd o bunnau i gefnogi'r teulu wedi'r digwyddiad.

Y disgwyl oedd i'r arian gael ei ddefnyddio i dalu am gostau teithio i Ysbyty Brenhinol Stoke, lle mae Ms Williams yn cael ei thrin.

Straeon perthnasol

  • Gwrthdrawiad A487: Cyhoeddi enwau dynes a babi fu farw