Angen taclo problem tlodi yng Nghymru 'ar frys' medd elusen

Digartref

Mae angen mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru ar frys os am leihau nifer y bobl mewn ardaloedd difreintiedig sy'n lladd eu hunain, medd elusen.

Mae Samariaid Cymru yn dweud fod angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynllun i leihau tlodi, a bod angen cymorth gwell ar bobl sydd mewn dyled.

Dywedodd fod cyfartaledd hunanladdiadau dair gwaith yn uwch mewn ardaloedd difreintiedig o'i gymharu ag ardaloedd cyfoethog.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "gwneud cynnydd da yn ddiweddar wrth hybu twf economaidd a thaclo thlodi yng Nghymru".

Hunan niweidio

Mae'r elusen yn dweud fod rhwng 300 a 350 o bobl yn lladd ei hunain bob blwyddyn yng Nghymru - tair gwaith yn fwy na'r nifer sy'n marw mewn damweiniau ar y ffyrdd.

Dyma'r achos marwolaeth mwyaf cyffredin mewn dynion rhwng 20 a 49 oed, a'r math mwyaf cyffredin mewn dynion dan 25 oed.

Mae bron i chwarter poblogaeth Cymru - 23% - yn byw mewn tlodi, sy'n costio £3.6bn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru, neu 20% o'u cyllid.

Mae gwaith ymchwil yr elusen yn dod i'r casgliad fod teimladau ac ymddygiad hunanladdol yn cynyddu ymhlith pobl os yw eu hamgylchiadau byw yn gwaethygu.

Mae hefyd yn awgrymu fod y nifer sy'n mynd i ysbytai o ganlyniad i hunan niweidio ddwywaith yn uwch mewn ardaloedd difreintiedig o'i gymharu ag ardaloedd cyfoethog, gyda'r risg o hunanladdiad yn uwch os yw rhywun yn ddi-waith.

Mae Samariaid Cymru yn dweud fod angen i Weinidogion daclo'r broblem drwy ddatblygu Strategaeth Tlodi Cymru, gan ychwanegu fod y cynllun o "bwysigrwydd eithriadol".

Image caption Dywedodd yr AC ar gyfer Dwyrain Casnewydd, John Griffiths ei bod hi'n hanfodol cael gwell dealltwriaeth o amddifadedd yng Nghymru

Maen nhw hefyd yn galw am well gwybodaeth i'r cyhoedd i ostwng dyled sy'n anodd ei dalu, sicrhau cefnogaeth well i'r rhai sy'n galaru wedi hunanladdiad a buddsoddi mewn grwpiau cymunedol i daclo unigrwydd ac arwahaniad.

Yn ôl Prif Weithredwr Samariaid Cymru, Sarah Stone: "Mae tystiolaeth gref o gysylltiad cryf rhwng amddifadedd economaidd ac ymddygiad hunanladdol yng Nghymru.

"Dydy hunanladdiad ddim yn anochel. Mae camau y gallwn eu cymryd i arbed pobl rhag marw yn ystod cyfnodau caled o'u bywydau."

'Straen ar wasanaethau'

Dywedodd AC Dwyrain Casnewydd, John Griffiths ei bod hi'n hanfodol cael gwell dealltwriaeth o amddifadedd yng Nghymru.

"Ar raddfa fwy, mae unigolion sy'n wynebu amgylchiadau cymdeithasol anodd angen mynediad at fesurau iechyd ataliol cyn iddyn nhw gyrraedd pwynt o deimlo fel lladd eu hunain, er mwyn lleihau'r straen ar wasanaethau," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi gwneud cynnydd da yn ddiweddar o hybu twf economaidd a thaclo tlodi yng Nghymru".

Ychwanegodd bod y llywodraeth wedi cynorthwyo pobl i gael gwaith a sicrhau "lefelau hanesyddol o isel o ran diweithdra ac anweithgarwch economaidd".

"Ym mis Rhagfyr fe lansiodd Ysgrifennydd yr Economi gynllun economaidd gyda'r egwyddor mai gwaith sy'n talu'n dda yw'r ffordd orau allan o dlodi."

Straeon perthnasol