Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-0 Bolton

Armand Traore Image copyright Huw Evans picture agency

Pwynt yn unig sydd rhwng Caerdydd ac Aston Villa, sy'n ail yn y Bencampwriaeth, ar ôl i'r Adar Gleision drechu Bolton o 2-0 nos Fawrth.

Sgoriodd Armand Traore ei gôl gyntaf i Gaerdydd gyda ergyd troed chwith o chwe llath ar ôl 34 munud.

Munud cyn yr egwyl fe wnaeth Sean Morrison ddyblu mantais y tîm cartref gyda pheniad.

Fe wnaeth Caerdydd llwyr reoli'r ail hanner gyda Bruno Ecuele Manga yn agos i sgorio trydedd gôl, ond fe beniodd y bêl yn erbyn y traws.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Caerdydd yn bedwaredd yn y tabl ac yn gyfartal ar bwyntiau gyda Derby sy'n drydydd, ar ôl iddyn nhw golli oddi cartref yn Sheffield Wednesday.

Mae'r fuddugoliaeth hefyd yn golygu nad yw Caerdydd wedi colli mewn pum gêm yn y gynghrair.

Pynciau Cysylltiedig