Bennell
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Hogyn ifanc 'wedi dychryn' gan Barry Bennell

15 Chwefror 2018 Diweddarwyd 17:04 GMT

Mae cyn bêl-droediwr o Wynedd wedi dweud ei fod yn byw gyda'r euogrwydd o "beidio dweud yn gynt" am y gamdriniaeth wnaeth ddioddef gan Barry Bennell.

Mae Barry Bennell wedi'i ganfod yn euog o 43 cyhuddiad o droseddau rhyw yn erbyn 11 o ddioddefwyr.

Roedd Bennell, sy'n 64 oed, yn gweithio gyda thimau ieuenctid Crewe Alexandra ac Manchester City yn y 1980au.

Ar y pryd roedd Matthew Monaghan - sy'n wreiddiol o Bwllheli - ar lyfrau Crewe Alexandra yn 10 oed ac yn bêl-droediwr addawol.

Mae'n dweud i Bennell ei gam drin pan oedd yn aros yn ei gartref, ac yn ôl Mr Monaghan mae'n dal i gael hunllefau am ei brofiadau erchyll.

Bydd Bennell yn cael ei ddedfrydu ar 19 Chwefror.