Geraint Thomas yn parhau i arwain y Volta ao Algarve

Geraint Thomas Image copyright Getty Images

Mae'r Cymro Geraint Thomas yn parhau i arwain y Volta ao Algarve ar ôl ennill y ras yn erbyn y cloc yn nhrydydd cymal y ras ddydd Gwener.

Bellach mae'r gŵr o Gaerdydd 22 eiliad o flaen ei gyd-seiclwr gyda Team Sky, Michal Kwiatkowski yn y dosbarthiad cyffredinol.

Dyma yw ras gyntaf y tymor i'r seiclwr 31 oed, ac mae wedi ei hennill ar y ddau achlysur diwethaf iddo gystadlu ynddi, yn 2015 a 2016.

Bydd y Volta ao Algarve yn dod i ben ddydd Sul.

Pynciau Cysylltiedig