Cwpan Her yr Alban: Y Seintiau Newydd 1-2 Dumbarton

Dimitris Froxylias Image copyright SNS
Image caption Fe olygodd gôl Dimitris Froxylias bod Dumbarton wedi sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Her yr Alban

Mae'r Seintiau Newydd allan o Gwpan Her yr Alban wedi cic rydd wych gan Dimitris Froxylias yn y deg munud olaf.

Yn yr ail hanner y daeth y goliau gyda Dean Ebbe yn sgorio wedi 51 munud i'r Seintiau.

Ond daeth gôl i Danny Handling i unioni'r sgôr.

Yna ar ôl 83 munud fe rwydodd yr eilydd Dimitris Froxylias o gic rydd.

Mae Dumbarton nawr wedi sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Her yr Alban.

Pynciau Cysylltiedig