Oedi ar yr A55 ger Wrecsam wedi i lori fynd ar dân
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth cerbyd aeth ar dân achosi tipyn o drafferth i deithwyr ar ffordd yr A55 yn y gogledd ddydd Gwener.
Mae'n ymddangos fod lori wedi mynd ar dân ger cyffordd 36 ar gyfer Wrecsam, ac fe gafodd swyddogion eu galw i ymateb i'r digwyddiad.
Roedd y cerbyd yn teithio i gyfeiriad y gorllewin pan ddigwyddodd y tân.
Cafodd traffig i'r ddau gyfeiriad ei effeithio am gyfnod, ond mae Traffig Cymru yn dweud fod y ffordd i'r dwyrain bellach yn glir.