Codi proffil Cymru: 'Mae'n bryd i ni dyfu lan'

guto Image copyright Getty Images

Yn Llundain ar 22 Chwefror mae Guto Harri yn cadeirio trafodaeth ynglŷn â phroffil Cymru, fel rhan o wythnos 'Wales Week in London' sy'n gorffen gyda derbyniad yn 10 Downing Street ar 1 Mawrth.

Cyn hynny, rhannodd Guto Harri ei farn gyda Cymru Fyw.


Y broblem sydd gennym ni yw bod ni'n dal yn gaeth i lot o ystrydebau a rhagdybiaethau sydd weithiau'n pathetig, ac sydd ddim yn adlewyrchu'r cryfderau sydd gennym ni yng Nghymru i'w portreadu a'u cynnig i'r byd.

Y broblem yn aml yw mai'r ymateb i hyn yw beio'r wasg Lundeinig.

Mae'r gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn mynd 'mlaen am y "democratic deficit", ac mae pobl yn cwyno yn ddi-baid bod Cymru ddim yn cael chwarae teg.

Yn amlach na pheidio os yw Cymru ddim yn cael sylw mae e achos bod Cymru efallai ddim yn haeddu'r sylw.

Pan fod yna foi o Gaerdydd yn dod yn poster child ar gyfer ISIS yn y Dwyrain Canol, neu foi o Gaerdydd yn gyrru fan fewn i dorf o Fwslemiaid mae'n cael llond lle o sylw.

Felly dyw Cymru ddim yn cael ei anwybyddu, beth ni ddim yn ei wneud yw gwthio'r elfennau positif 'na sydd gennym ni i gynnig i'r byd.

Beth yw'r Gymru gyfoes?

Dydi Llywodraeth Cymru, na neb arall, wedi diffinio beth yw'r Gymru gyfoes.

Dwi'n gwybod bod 'na gwmnïau Cymreig sydd yn gwneud cynnyrch o'r ansawdd uchaf posib. Ond yn amlach na pheidio dydyn nhw ddim yn rhan o'r sgript genedlaethol, ddim yn rhan o'r drafodaeth wleidyddol.

Mae'r drafodaeth wleidyddol yng Nghymru yn aml yn tindroi ar sut mae gwario arian, nid sut mae creu golud, sut mae ailddosbarthu golud yn hytrach na'i greu e.


Hefyd o ddiddordeb:


Beth mae pobl yn weld yw pobl sy'n obsessed gyda phroses sydd methu cymryd penderfyniad ar rywbeth fel morlyn ym Mae Abertawe am flynydde, ac yn tindroi am flynydde - methu penderfynu os oedden nhw moyn Gemau'r Gymanwlad neu beidio, ac wedyn yn gadael y Gemau i fynd i Birmingham.

Dydi pobl ddim yn gwneud stori am ryw wleidydd yn gwneud araith dda yn y siambr heddi ynglŷn â hawliau merched neu hyrwyddo pethe gwyrdd.

Ond pan mae gwleidyddion yn gwneud rhywbeth arwyddocaol fel y penderfyniad dewr a beiddgar ynglŷn â dosbarthu organau ar ôl i chi farw - mae Cymru yn arwain y gad fan yna - yn haeddiannol maen nhw wedi cael lot o sylw.

A ddylai darlledu gael ei ddatganoli?

Yn fy marn bersonol i - nid fy marn fel aelod o awdurdod S4C - i unrhyw un sy'n genedlaetholwr efo 'c' fach, ac yn credu dylai grym fod mor agos at y bobl â phosib, wrth gwrs dyle darlledu fod yn rhan o'r pecyn o bethe sydd wedi eu datganoli i Gaerdydd.

Y broblem yw, a dwi'n sensitif i hyn, bod ein diwylliant gwleidyddol ni falle ddim digon aeddfed i lawer ohonom ni deimlo'n gartrefol efo'r syniad o rywbeth mor allweddol bwysig i fod yn nwylo diwylliant gwleidyddol sydd wedi bod yn un-bleidiol bron yn ddieithriad ers dros ganrif.

Image copyright Getty Images
Image caption Darlledu yng Nghymru - penderfyniad i'r Senedd?

Mae'r goblygiadau ymarferol o roi mwyafrif Llafur ym Mae Caerdydd, yn enwedig pan mae pobl mor groen denau yn y mix, yn gyfrifol yn codi braw arna i.

Mae'n beth trist iawn i ddweud ond mae lot o bobl yn fwy cyfforddus gyda Saeson anwybodus efallai ond fydde'n darllen ac yn cael eu briffio ac yn dod ag elfen o wrthrychedd i'r peth.

Mae'r Alban wedi dangos bod senedd ifanc yn y DU yn gallu creu mwy o sêr na San Steffan, achos maen nhw wedi cynhyrchu Nicola Sturgeon a Ruth Davidson. Felly os yw'r Alban yn gallu ei wneud e, pam ddim Cymru?

Dwi ddim yn credu mai bai'r wasg yw bod nhw heb sbotio Ruth neu Nicola yng Nghymru, yn anffodus ar y funud dwi ddim yn meddwl bod yna Nicola Sturgeon neu Ruth Davidson yn bod yng Nghymru.

Y Cymry cwynfanllyd

Fe wnaeth un gwleidydd gwyno wrtha'i bod gogledd Cymru wedi ei anwybyddu fel safle bosib ar gyfer yr hwylio neu'r beicio ar gyfer y Gemau Olympaidd 2012.

Pan ofynnais iddo fe os oedd e wedi creu pwyllgor gwaith a thîm i hyrwyddo'r ymgyrch, mynd i weld rhywun o'dd yn ymwneud â'r Olympics neu hyd yn oed codi'r ffôn i geisio awgrymu gogledd Cymru, doedd e ddim yn gweld y cysylltiad.

Roedd e'n lot haws beio anwybodaeth y Saeson na chymryd y cyfrifoldeb a hyrwyddo gogledd Cymru, sy'n safle ffantastig.

Image copyright WPA Pool
Image caption Un o'r gwleidyddion sy'n dal sylw'r wasg Lundeinig: Nicola Sturgeon, Prif Weinidog Yr Alban

Ry'n ni'n dal yn ymddwyn yn aml yng Nghymru fel oedden ni'n y 90au cynnar, gyda Chymru'n pleidleisio un ffordd ac roedd 'na rywun o blaid oedd Cymru yn ei wrthod, o etholaeth y tu draw i'r ffin, yn dod yma i'n llywodraethu fel oedden nhw'n lico ta beth.

Y tro diwetha' i mi checio mae 'na Gynulliad wedi bod ym Mae Caerdydd ers ugain mlynedd.

Mae gennym ni sgôp i wneud bob math o bethe, ond 'dyn ni'n dal i dueddu i feddwl mai ein swyddogaeth ni fel gwlad yw cwyno'n ddi-baid am y pethe mae eraill yn ei wneud i ni.

Mae'n bryd i ni dyfu lan yn y bôn, a bod yn fwy beiddgar, mentrus a phenderfynol.