Record bersonol i Davies sy'n gorffen yn chweched

Aled Sion Davies Image copyright Getty Images

Fe orffennodd yr athletwr paralympaidd Aled Sion Davies yn chweched wrth iddo gystadlu yn erbyn athletwyr heb anableddau am y tro cyntaf erioed.

Fe daflodd 15.42 metr ym Mhencampwriaeth Athletau dan do Prydain yn Birmingham oedd yn record bersonol.

Dyw Davies ddim yn medru cymryd rhan yn Gemau'r Gymanwlad 2018 am nad yw'r gamp mae'n cystadlu ynddi yn rhan o'r rhaglen.

Ond mae eisiau cyrraedd rownd derfynol y Gemau Gymanwlad llawn yn 2022.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol