Pro 14: Dreigiau 15-18 Benetton

Gerard Ellis Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r Dreigiau wedi gorfod bodloni ar bwynt bonws yn unig ar ôl colli yn Rodney Parade yn erbyn Benetton.

Cafodd y tîm cartref eu pwyntiau i gyd yn yr hanner cyntaf gyda chais Jarred Rosser a dau i'r bachwr Liam Belcher.

Er i'r Eidalwyr daro yn ôl gyda chais Monty Ioane y Dreigiau oedd ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Ond fe newidiodd pethau yn yr ail hanner ac fe olygodd cic gosb Marty Banks bod yr ymwelwyr yn hawlio'r fuddugoliaeth.

Pynciau Cysylltiedig