Cynghrair Cenedlaethol Lloegr: Solihull Moors 0-0 Wrecsam

Mark Carrington Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Mark Carrington yn un o dri o chwaraewyr Wrecsam oedd yn absennol o'r tîm

Mae Wrecsam wedi llithro i'r pumed safle yn nhabl Cynghrair Cenedlaethol Lloegr ar ôl gêm ddi-sgôr oddi cartref yn erbyn Solihull Moors nos Fawrth.

Roedd Wrecsam heb dri chwaraewr cyn y gêm, gyda Paul Rutherford wedi'i wahardd ac Olly Marx a Mark Carrington yn dioddef o anafiadau.

Fe wnaeth 648 o gefnogwyr Wrecsam wneud y daith i Solihull i wylio gêm ble weithiodd y tîm cartref yn galed i sicrhau pwynt.

Roedd Scott Quigley yn fygythiad ymosodol i Wrecsam, ond methodd ganfod cefn y rhwyd er gwaethaf ei ymdrechion.

Solihull ddaeth agosaf at sgorio, ond fe darodd ergyd Yusuf y postyn ar ôl 55 munud.

Mae Wrecsam wedi cael wyth gêm gyfartal mewn 11, wrth iddyn nhw geisio cael rhediad cyson o ennill gyda 12 gêm yn weddill tan ddiwedd y tymor.