Cyn-chwaraewr rygbi RGC, Ian Williams, wedi marw

Ian Williams Image copyright Doncaster Knights

Mae chwaraewr rygbi wnaeth gynrychioli nifer o glybiau yng Nghymru wedi marw yn 27 oed.

Bu farw'r prop Ian Williams, 27, wedi iddo gael ei daro'n wael wrth hyfforddi gyda'i glwb, Doncaster Knights, ddydd Mawrth.

Bu'n chwarae i nifer o glybiau yng Nghymru yn ystod ei yrfa, gan gynnwys Rygbi Gogledd Cymru a chlybiau rygbi Abertawe, Pen-y-bont a'r Mwmbwls.

Roedd hefyd wedi chwarae dros glwb Cymry Llundain, ac roedd wedi cynrychioli Doncaster yn y Bencampwriaeth yn Lloegr ers haf 2017.

Dywedodd Clwb Rygbi Abertawe bod y newyddion yn "drasig".

"O bawb yn y clwb, rydym yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Ian," meddai'r clwb ar Twitter.

Pynciau Cysylltiedig