Wythfed i Mica Moore a Mica McNeill yn y bobsled

Mica Moore a Mica McNeill Image copyright Getty Images
Image caption Mica Moore sy'n gwthio'r sled o'r cefn ar ddechrau'r ras, a Mica McNeill sy'n llywio

Fe wnaeth y Gymraes Mica Moore a'i chyd-rasiwr Mica McNeill orffen yn yr wythfed safle yng nghystadleuaeth y bobsled yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Ne Corea.

Roedden nhw'n chweched dros nos yn dilyn dwy ras, ond fe wnaethon nhw lithro ychydig safleoedd yn y ddwy ras olaf ddydd Mercher.

Tîm o'r Almaen enillodd y fedal aur, gyda thîm o'r Unol Daleithiau yn ennill arian a thîm Canada yr efydd.

Ond roedd hi'n agos o ran amseroedd, gyda thîm Prydain 1.18 eiliad yn unig i ffwrdd o'r fedal efydd.

Roedd Moore yn gobeithio dilyn llwyddiant yr unig athletwr arall o Gymru i gymryd rhan yn PyeongChang, Laura Deas, lwyddodd i ennill medal efydd yn y sled sgerbwd.

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Mica McNeill a Mica Moore (dde) i weld yn hapus gyda'u canlyniad

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol