Cyhoeddi enw dyn fu farw ar ôl disgyn yn Eryri

Eryri Image copyright Tîm achub mynydd Llanberis
Image caption Fe gafodd timau achub eu galw i sawl digwyddiad yn Eryri dros y penwythnos

Mae enw dyn 48 oed a fu farw wedi iddo gwympo dros 800 troedfedd i lawr dibyn serth yn Eryri wedi cael ei gyhoeddi.

Y gred yw bod Steven Smith o Rotherham, Sir Efrog wedi llithro yn y rhew a'r eira cyn disgyn oddi ar Glogwyn Coch ar Yr Wyddfa.

Cafodd gwirfoddolwyr o Dîm Achub Mynydd Llanberis a hofrennydd eu galw ddydd Sadwrn am 12:35.

Mae Crwner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones wedi agor ymchwiliad i'r digwyddiad.

Straeon perthnasol