Y dyn cyntaf i ddysgu Cymraeg ar yr awyr

Mae angen penderfyniad i fynd ati i ddysgu iaith newydd, ond mae angen ychydig o ddewrder hefyd i wneud hynny o flaen cynulleidfa o filoedd o bobl.

Dyna oedd y dasg yn wynebu'r Llundeiniwr Dan Damon ar orsaf newydd BBC Radio Wales nôl yn 1978.

Roedd Dan wedi bod yn darllen y newyddion ar ôl symud i BBC Cymru ac fe gafodd wahoddiad i fod yn un o gyflwynwyr y gwasanaeth newydd.

Ond roedd 'na amod.

Roedd y penaethiaid eisiau iddo gymryd rhan mewn cyfres arloesol arall gan gymryd rhan y disgybl fyddai'n dysgu Cymraeg ar yr awyr.

"Ro'n i'n edrych ymlaen at yr her ar raglen Catchphrase," eglurodd Dan, sydd bellach yn gyflwynydd a newyddiadurwr gyda BBC World Service.

"Ro'n i eisoes wedi bod ar gwrs cyflym i ddysgu ynganu 'll' a 'ch' cyn i mi ddechrau darllen y newyddion a ro'n i wrth fy modd yn dod i wybod rhagor am Gymru a'i diwylliant.

"Roedd Cennard Davies, Basil Davies ac Ann Jones yn athrawon da ac amyneddgar. Fe fues i wrthi am flwyddyn cyn symud i orsaf fasnachol CBC."

O Hwngari i Drefynwy

Peiriannydd gyda'r BBC oedd Dan tan iddo gamu i ochr arall y stiwdio fel darlledwr.

Tyfodd ei ddiddordeb mewn newyddiaduraeth a materion tramor yn ystod cyfnod fel cyflwynydd ar orsaf LBC ar ddechrau'r '80au.

Image caption Sylvia Horne a Dan Damon gyda'r gwerslyfr 'Catchphrase'

Ar ôl symud i Hwngari yn 1989 roedd Dan a'i wraig Sian, Cymraes sy'n wraig camera, yn y lle iawn ar yr adeg iawn i gofnodi cwymp yr Undeb Sofietaidd.

Fe fuodd y ddau yn crwydro canolbarth Ewrop am saith mlynedd yn cofnodi un o straeon newyddion mwyaf arwyddocaol yr ugeinfed ganrif.

Ond er gwaetha' ei anturiaethau rhyngwladol, mae angerdd Dan at Gymru a'r Gymraeg yn parhau.

"'Dyn ni'n dal i fyw yng Nghymru, yn Nhrefynwy," meddai. "Mae pobl yn tueddu i feddwl nad oes 'na lawer o Gymraeg i'w glywed yma, ond ry'n ni wedi ein synnu ar yr ochr orau cymaint o ewyllys da sydd tuag at yr iaith.

"Dwi wedi bod yn ymgyrchu i gael ysgol Gymraeg yma. Ar hyn o bryd mae'n rhaid i blant sydd eisiau addysg Gymraeg deithio i'r Fenni."

Image caption Mae Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni yn 2016 wedi rhoi hwb i'r ymwybyddiaeth o'r Gymraeg yn Sir Fynwy

Ers dychwelyd i'r DU daeth Dan yn ôl i'w wreiddiau yn y BBC. Mae o bellach yn darlledu i ddegau o filiynau o bobl ar hyd a lled y byd fel cyflwynydd World Update ar BBC World Service.

Dydy hi ddim yn syndod felly ei fod wedi dysgu nifer o ieithoedd eraill ar ei deithiau.

"Tra'n gweithio yn yr Iseldiroedd mi es i ati i ddysgu'r iaith frodorol. Mae gen i hefyd 'chydig o Hwngareg.

"Mi fues i'n ymgyrchu i gael rhagor o sylw i'r iaith Coreaidd yma yn y World Service. Mi rydw i wedi ei dysgu hi erbyn hyn ac rwy'n falch o ddweud bod y BBC wedi sefydlu gwasanaeth Coreaidd y llynedd."

Image copyright Sain
Image caption Roedd gwrandawyr Radio Wales yn gallu dilyn 'Catchphrase' trwy gyfrwng llyfr a chasét

Dysgu Cymraeg... yn 90

Mae angerdd Dan at ieithoedd hyd yn oed wedi dylanwadu ar aelodau eraill ei deulu hefyd.

"Yn ddiweddar fe wnaethon ni symud Cecile, fy Mam, yma i Drefynwy," eglurodd. "Mae hi'n 90 oed erbyn hyn ond mae hi wedi dechrau dysgu Cymraeg ac mae hi'n dod ymlaen yn dda iawn gyda 'sgwennu.

"Mae siarad yr iaith 'chydig yn anoddach iddi hi gan ei bod hi yn drwm ei chlyw.

"Mae fy ngwraig Sian hefyd yn dysgu. Roedd hi'n byw ym Mhenarth cyn y twf mewn addysg Gymraeg yn ardal Caerdydd. Ambell i ddiwrnod pan ry'n ni gartre' ry'n ni'n ceisio gwneud pwynt o siarad Cymraeg gyda'n gilydd. 'Dyn ni hefyd wedi bod yn Nant Gwrtheyrn.

"Daeth Mam Sian gyda ni hefyd. Cafodd hi ei magu ym Mlaenllechau yn y Rhondda a dim ond Cymraeg roedd hi'n siarad tan oedd hi'n bump oed. Wedi i'r teulu symud i Benarth fe gollon nhw'r iaith. Ond roedd hi'n synnu faint 'roedd hi'n gofio er nad oedd hi wedi siarad Cymraeg ers y '30au!"

Hefyd o ddiddordeb

line

Mae Dan yn credu bod angen rhagor o gyfleoedd i bobl fedru trwytho eu hunain yn y Gymraeg os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Ry'n ni wedi gweld, hyd yn oed yn fan hyn yn Nhrefynwy, bod yna awch i ddysgu Cymraeg.

"Ry'n ni'n mynd i'r cymdeithasau Cymraeg yn yr ardal yn aml, ond mae angen rhagor o gyfleoedd.

"Dwi'n credu petai 'na ganolfannau iaith fel Nant Gwrtheyrn i'w cael mewn rhannau eraill o Gymru mi fyddai rhagor o bobl yn cael cyfle i ddysgu iaith fendigedig."

Gallwch glywed Dan Damon yn darlledu o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 'World Update', BBC World Service, 10:06.