Cadw traddodiad Cymreig yn fyw yn Llundain
- Cyhoeddwyd

Dros y blynyddoedd mae 187 o chwaraewyr Clwb Rygbi Cymry Llundain wedi ennill capiau dros Gymru, a dwsinau wedi mynd 'mlaen i gynrychioli'r Llewod.
Ond mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd i'r Alltudion, gyda'r clwb yn mynd i'r wal ym mis Rhagfyr 2016.
Bu cadeirydd y clwb, Gwyn Williams, yn siarad gyda Cymru Fyw am yr ymdrechion i ddod â'r dyddiau da yn ôl i Old Deer Park.
Unwaith daeth y trafferthion ariannol roedd 'na gwpl o fisoedd lle roedden ni'n ceisio sefydlogi pethau.
Roedd adeg o alaru bod ni'n colli'r tîm proffesiynol i fod yn onest.
Ond roedd dau glwb yma fel y cyfryw - yr un proffesiynol yn chwarae ar dop strwythur rygbi Lloegr, a'r tîm amatur yn chwarae yn y nawfed haen.
Y tîm amatur mewn ffordd oedd y gwreiddiol, a'r un proffesiynol ddaeth gyda dyfodiad proffesiynoldeb rygbi yn y '90au.
Gyda'r trafferthion roedd rhaid dod â'r tîm proffesiynol i ben, a olygai bod ein hymdrechion yn mynd i'r tîm amatur a chymryd gofal o'r adnoddau a chyfleusterau yma.
Roedd y tîm amatur yn un cymunedol a hamddenol o ran natur.
Roedden ni eisiau cadw'r naws cymunedol ond ar y llaw arall anelu i gymryd y clwb nôl i fyny'r cynghreiriau - mae'n glwb sy'n berchen i'r aelodau.
Y gobaith ydy i ennill pedwar dyrchafiad mewn pum mlynedd, gan gyrraedd y London Premier Select (yr hen National League 3).
Dyna'r bumed haen o rygbi yn Lloegr, ac wedi i ni gyrraedd yno bydd rhaid ail-asesu ein hamcanion.
Mae'r torfeydd yn llai na oedden nhw yn yr Uwchgynghrair wrth reswm, ond eto 'dyn ni wedi dychwelyd i Old Deer Park.
Yn ôl rheolau'r Uwchgynghrair mae'n rhaid cael stadiwm yn dal o leiaf 10,000 ac roedden ni'n chwarae yn y Kassam Stadium yn Rhydychen.
Rwy' wedi fy synnu gyda faint sydd wedi dod nôl at y clwb - gan gael torfeydd o 720 eleni.
Os gymharwn ni hyn gyda thîm amatur Wasps, ein gwrthwynebwyr wythnos diwethaf, roedd 120 o bobl yn edrych ar y gêm.
Yn y nawfed haen 'dych chi'n disgwyl 12 ar ochr y cae - nid 120, ac yn sicr dim 720! 'Dyn ni'n cael torfeydd sydd yn debyg i'r hyn sydd i'w weld yn y drydedd neu bedwaredd haen.
Mae ciniawau'r aelodau yn ofnadwy o boblogaidd ac yn ffynhonnell bwysig o arian.
Gyda chlwb proffesiynol bydde chi'n disgwyl 60 i 100 o bobl, ond 'dyn ni'n orlawn ac yn cael dros 170, ac mae'r llefydd ar gyfer y cinio Gŵyl Dewi i gyd wedi'u gwerthu'n barod.
Mae diwrnodau gemau rhyngwladol Cymru yn achlysur arbennig i'r clwb, ac yn aml mae digwyddiadau y noson cynt, er enghraifft cyn gêm Lloegr eleni roedd Gareth Edwards yn cael ei gyfweld gan ei ffrind John Taylor.
Ar fore'r gêm rhyngwladol roedd gemau i bobl ag anghenion arbennig a gemau i hel arian at achosion da, fel yr elusen sy'n helpu Ed Jackson, un o gyn-chwaraewyr y clwb a gafodd anaf difrifol i'w gefn y llynedd.
Wnaethon ni benderfynu peidio talu ein chwaraewyr am nawr, ond fe wnaethon ni fuddsoddi mewn adnoddau hyfforddi a meddygol o safon uchel, gan wneud yn siŵr bod nhw ar gael i bawb - o'r tîm cyntaf, ail dîm, tîm dan 23, timau merched a'r ieuenctid.
Cymorth cyn-chwaraewyr rhyngwladol
Roedd 'na hyder yn syth drwy gael cyn-chwaraewr Cymru Sonny Parker fel cyfarwyddwr rygbi, Cai Griffiths a oedd efo'r Gweilch fel chwaraewr a rheolwr, a chyn-Walch arall Will Taylor yn canolbwyntio ar strength and conditioning.
Mae'r adnoddau yn dod a chwaraewyr o safon i'r clwb, mae 'na gyn-chwaraewyr ieuenctid Cymru a'r Alban yn eu plith.
Mae 'na fechgyn yma sy'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol St Mary's yn Twickenham - sefydliad sydd â phartneriaeth gyda'r clwb.
Hefyd mae myfyriwr wedi dod yma'n ddiweddar o Goleg Llanymddyfri, un o Lambed ac un arall o'r Coed Duon.
Bydden i'n dweud y byddai 2/3 o'r tîm cyntaf yn gallu chwarae dros Gymru o dan y rheolau rhyngwladol.
Mae'r tîm dan 23, y London Griffins, yn chwarae ar lefel uchel gan wynebu timau academi o safon Pencampwriaeth Lloegr.
Mae'r bechgyn ifanc yn dod yma oherwydd yr adnoddau sydd ar gael a'r awyrgylch yn y clwb.
Efallai bydden nhw'n gadael y clwb a mynd nôl i'w clybiau gwreiddiol rhyw ddydd, ond dwi eisiau iddyn nhw gael profiadau da gyda'r clwb a theimlo bod nhw'n perthyn.
Yn yr un modd dwi eisiau i bob Cymro neu Gymraes deimlo mai dyma eu clwb nhw yn Llundain, boed chi'n dod o Lambed, Bae Colwyn neu o Bont-y-Cymer fel fi.