Un newid i dîm rygbi merched Cymru i herio Iwerddon

Lisa Neumann Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe wnaeth Lisa Neumann ennill ei chap cyntaf yn erbyn Yr Alban

Mae'r hyfforddwr Rowland Phillips wedi gwneud un newid i dîm rygbi merched Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sul.

Bydd y cefnwr Lisa Neumann yn dechrau ei gêm ryngwladol gyntaf, ac mae'n bosib y bydd y prop Cara Hope yn ennill ei chap cyntaf oddi ar y fainc.

Fe wnaeth Cymru drechu'r Alban o 18-17 yn eu gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad eleni, cyn cael cweir o 52-0 gan y deiliaid, Lloegr.

Maen nhw'n bedwerydd yn y tabl ar hyn o bryd, ond ar yr un faint o bwyntiau ag Iwerddon.

Tîm Cymru

Lisa Neumann; Hannah Bluck, Kerin Lake, Rebecca De Filippo, Jess Kavanagh-Williams; Elinor Snowsill, Rhiannon Parker; Caryl Thomas, Carys Phillips (c), Amy Evans, Siwan Lillicrap, Mel Clay, Alisha Butchers, Beth Lewis, Sioned Harries.

Eilyddion: Kelsey Jones, Cara Hope, Meg York, Natalia John, Nia Elen Davies, Jade Knight, Robyn Wilkins, Hannah Jones.