Tro pedol Cyngor Sir Gâr ynglŷn â baner yr enfys
- Cyhoeddwyd

Mae baner yr enfys yn chwifio ym mhencadlys Cyngor Sir Gaerfyrddin y penwythnos yma, a hynny ar ôl i'r awdurdod ddweud i ddechrau na fyddan nhw'n gwneud.
Mewn ardaloedd eraill yng Nghymru mae'r faner wedi bod yn chwifio i nodi mis hanes y gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol.
Ond roedd grŵp trawsbleidiol y cyngor ar faterion cyfansoddiadol (CRWG) wedi dweud fod y cais y tu allan i bolisi a phrotocol y cyngor.
Cafodd deiseb ei threfnu yn gofyn i'r cyngor ailystyried, ac ar raglen Taro'r Post yr wythnos yma roedd yna feirniadaeth gan wleidyddion.
Erbyn hyn mae arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole, wedi dweud y bydd y faner yn cael ei chwifio am ddeuddydd gan honni fod y penderfyniad gwreiddiol wedi "cael ei gamddehongli'n fwriadol at ddibenion gwleidyddol".
'Dathlu amrywiaeth'
Dywedodd bod rhai'n awgrymu nad yw'r awdurdod yn cefnogi'r gymuned LGBT a bod hynny ddim yn gywir.
"Er bod pwyllgor trawsbleidiol y cynghorwyr wedi penderfynu yn erbyn diwygio protocol baner yr awdurdod, gan orfodi gwrthod rhagdybiol i bob cais am faner, ofnaf fod y penderfyniad wedi cael ei gamddehongli'n fwriadol at ddibenion gwleidyddol, gan awgrymu nad yw Cyngor Sir Gâr yn cefnogi nac yn dathlu aelodau staff a phreswylwyr LGBT. Nid yw hyn yn wir o gwbl," meddai.
"Er mwyn dileu unrhyw gamddealltwriaeth, ac i ddangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac i ddathlu amrywiaeth, rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion y cyngor i hedfan Y Faner Enfys dros neuadd y sir y penwythnos hwn."
Ychwanegodd Mr Dole: "Fe allwn ddychwelyd i'r broses ffurfiol ar gyfer diwygio polisi baneri'r cyngor yn nes ymlaen, ond fel arweinydd y cyngor rwyf wedi cymryd y penderfyniad i hedfan Y Faner Enfys yn ystod y deuddydd nesaf fel mynegiant o gefnogaeth Cyngor Sir Gâr i staff a thrigolion yn y gymuned LGBT+."