Pro14: Dreigiau 12-25 Caeredin

Hallam Amos in action for Dragons Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Hallam Amos yn ôl yn chwarae i'r Dreigiau nos Wener

Roedd yna fuddugoliaeth i Gaeredin nos Wener wrth iddynt drechu'r Dreigiau.

Yr ymwelwyr a sgoriodd gynta nos Wener wrth i Sam Hidalgo-Clyne gael tri phwynt gymharol hawdd drwy gic gosb a methiant fu ymgais Dorian Jones funudau wedyn i unioni'r sgôr gyda gôl adlam.

Wedi 24 munud dyma'r Albanwyr yn ymestyn eu mantais ymhellach wedi i Neil Cochrane sgorio cais ac roedd cicio Hidalgo-Clyne yn gywir unwaith eto gan ddod â'r sgôr i 0-10.

Yn fuan ar ddechrau'r ail hanner fe sgoriodd Caeredin eto - cais y tro hwn gan Chris Dean ond y trosiad yn aflwyddiannus.

Y Dreigiau yn ôl yn y gêm

Ond doedd y Dreigiau ddim wedi digalonni'n llwyr ac wedi 52 munud dyma gais gornel gan y clo Rynard Landman ac fe sicrhaodd cic Dorian Jones drosgais gan ddod â'r tîm cartref yn ôl i'r gêm.

O fewn chwarter awr cais arall i Rynard Landman wedi gwaith da gan Charlie Davies ac felly y tîm cartref yn dod o fewn tri phwynt i'r ymwelwyr.

Methiant fu'r trosiad ond o fewn tair munud roedd yna gais arall i'r Albanwyr - gan Duncan Weir y tro hwn a dyma ymestyn y bwlch unwaith eto.

Roedd yna gais arall iddynt cyn diwedd y gêm ac felly y sgôr terfynol oedd y Dreigiau 12-25 Caeredin.

Pynciau Cysylltiedig