Ymchwiliad i ymosodiad rhyw difrifol mewn parc

Parc Dolerw Image copyright Geograph

Mae parc ym Mhowys wedi'i gau wrth i'r heddlu ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol ddigwyddodd yno yn oriau mân bore Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu bod yr ymosodiad wedi digwydd ym Mharc Dolerw yn Y Drenewydd am tua 01:00.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi lansio ymchwiliad i'r digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig