Cynnal angladd chwe fu farw yn nhân Llangamarch
- Cyhoeddwyd

Roedd David Cuthbertson yn byw yn y tŷ gyda'r plant
Mae angladd chwe aelod o deulu fu farw mewn tân anferth mewn tŷ ym Mhowys wedi'i gynnal ddydd Sadwrn.
Bu farw David Cuthbertson, 68, yn y tân yn y ffermdy yn Llangamarch ar 30 Hydref y llynedd.
Bu farw Gypsy Grey Raine, pedair, Patch Raine, chwech, Misty Raine, naw, Reef Raine, 10, a Just Raine, 11, yn y digwyddiad hefyd.
Cafodd gwasanaeth ei gynnal yn Eglwys Sant Cadmarch yn Llangamarch fore Sadwrn.
Mae'r tŷ yn cael ei dynnu i lawr fesul bricsen er mwyn cadw pob tystiolaeth
Fe wnaeth tri o blant - 10, 12 a 13 oed - lwyddo i ddianc o'r tân, ac mae aelodau eraill o'r teulu nawr yn gofalu amdanynt.
Mae heddlu wedi dweud bod y tŷ yn cael ei dynnu i lawr fesul bricsen er mwyn cadw pob tystiolaeth, ond does dim esboniad i achos y tân hyd yma.
Ers y trychineb mae ymgyrch i gefnogi'r teulu wedi codi dros £25,000.
Straeon perthnasol
- 31 Ionawr 2018
- 22 Ionawr 2018
- 31 Hydref 2017