Pro14: Scarlets 34-10 Ulster

  • Cyhoeddwyd
ScarletsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe lwyddodd y Scarlets i drechu Ulster a sicrhau pwynt bonws hefyd ym Mharc y Scarlets nos Sadwrn.

Roedd asgellwr tîm dan-20 Cymru, Ryan Conbeer, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Pro14, a llwyddodd i sgorio cais gwych yn rhedeg o'i hanner ei hun.

Fe wnaeth Ioan Nicholas, Paul Asquith a Tadhg Beirne hefyd groesi am geisiau i'r tîm cartref, tra bo Stuart McCloskey wedi taro 'nôl i'r ymwelwyr.

Daeth 14 pwynt o droes y maswr Dan Jones i'r Cymry hefyd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Scarlets yn cadw'r pwysau ar Leinster, sydd ar frig Adran B.