Teyrnged i John Griffiths gan ei gyfaill agos, Geraint Davies

John Griffiths

Yn dilyn marwolaeth sydyn y cerddor John Griffiths dros y penwythnos, mae un o'i gyfeillion agosaf, Geraint Davies o'r band Hergest, yn rhannu ambell i atgof personol am y dyn tu ôl i'r gitâr fas.


Rwy'n deall bod John wedi marw ond mae'n anodd credu. Fe gymrith amser eto i dderbyn.

Fe fydd y bylchau mae e'n gadael ar ei ôl yn dod i'r amlwg yn raddol. Fydd yna ddim galwadau ffôn ar fore Llun toc wedi deg yn holi 'beth sy' mlân 'da ti wthos 'ma? Oes gobeth am goffi?'.

Teithio ar 'y mhen fy hun i gyfarfodydd cinio'r hen rocyrs fydda' i bellach, a bydd angen rhywun arall i gadw cwmni â fi ar drips i weld James Taylor neu Bonnie Raitt.

Mae colli John Griffiths yn ergyd drom bersonol yn ogystal â cholled i'r byd cerddorol Cymraeg - i'r torfeydd wnaeth mwynhau'i berfformiadau ar lwyfan (gydag Edward H, Injaroc, Tecwyn Ifan, Hergest, Ac Eraill a mwy, ac yn ddiweddarach Geraint Griffiths a'r Gwehyddion, y Tebot Piws atgyfodedig a H a'r Band), a'r miloedd ychwanegol glywodd ei gyfraniad e' ar recordiau di-ri' (prin oedd y recordiau ar label Sain yn y 70au a'r 80au heb bresenoldeb John a'i gyfaill mawr Charlie Britton).

Gwrddon ni gynta' ym 1973 pan oedd Hergest yn chwilio am gyfeilyddion ar y bas a'r drymiau ar gyfer ein record gynta'; trwy gysylltiadau, dyma ymweld â John yn ei gartre' ym Mhontrhydyfen i'w glywed e'n chware, a'i wahodd e'n syth i ymuno â ni yn y stiwdio.

Deugain mlynedd a mwy yn ddiweddarach bydde fe wrth ei fodd yn adrodd wrth unrhyw un oedd yn barod i wrando ei fod e'n ddigon da i Edward H ond wedi gorfod g'neud 'audition' i Hergest.

Image caption Geraint Davies yn recordio gyda John Griffiths (chwith)

Offerynnwr, canwr (mae ei lais harmoni'n frith trwy recordiau Edward H, Hergest a Tecwyn Ifan yn enwedig), roedd cerddoriaeth yn bopeth i John (wel, popeth ar wahân i'w gariad annaturiol e tuag at Man U).

Ac er ein bod ni'n dau'n euog o hel atgofion o ryfeloedd pop y 70au yn ormodol, roedd e wrth ei fodd yn clywed talentau newydd ac am eu rhannu a'u hybu nhw. Ar yr un pryd, roedd ei gefndir cynnar dan bobol fel Alwyn Samuel yn cael ei amlygu yn hoffter yr hen rocyr o Gerdd Dant.

Heb amheuaeth, roedd e'n ddyn ei filltir sgwâr, ond rhoddodd ei dalent cerddorol y cyfle iddo fe grwydro Cymru a thu hwnt a gwneud ffrindie ymhobman.

Deuoliaeth arall: er yn berson preifat, swil ar adegau, unwaith roedd e'n eich nabod chi, roedd e'n gymdeithaswr o fri, wrth ei fod yng nghwmni'i ffrindie, gyda'r 'bois' (Edward H) ar frig y rhestr. Roedd e'n joio joio.

O'r diwrnod hwnnw ym 1973, buon ni'n ffrindie penna'; fe oedd fy ngwas priodas i, buon ni'n cydweithio ar nifer o brosiectau cerddorol dros y blynyddoedd, ac wrth gwrs roedd y coffi wythnosol a'r cyd-deithio i bob math o lefydd i gigs pobol eraill. Cyd-letya hefyd - nes i ni gytuno nad oedd hi'n syniad da i ddau arch-chwyrnwr rannu 'stafell.

Rwy'n gweld ei eisiau fe'n barod - wrth i'r dyddie fynd heibio bydda i'n gweld ei eisiau fe'n fwy.