Chwe blynedd o garchar i Mark Aizlewood am dwyll £5m
- Cyhoeddwyd

Mae cyn bêl-droediwr Cymru, Mark Aizlewood wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar am ei ran mewn twyll gwerth £5m.
Cafodd Aizlewood, wnaeth ennill 39 cap dros Gymru, ei ganfod yn euog o'r cyhuddiadau yn ei erbyn gan Lys y Goron Southwark yn gynharach yn y mis.
Roedd Aizlewood, 58 o Aberdâr, a phum dyn arall wedi camdefnyddio arian cyhoeddus er mwyn rhedeg cwrs oedd i fod i hyfforddi pobl ifanc.
Mae'r cyn bêl-droediwr arall Paul Sugrue, 56 o Gaerdydd, hefyd wedi ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar.
'Effaith niweidiol'
Dywedodd y barnwr David Tomlinson fod y cynllun wedi cael "effaith niweidiol difrifol" ar y colegau gafodd eu twyllo.
Ychwanegodd fod y twyll wedi cymryd "symiau sylweddol o arian llywodraeth" er mwyn esgus helpu pobl difreintiedig, a'i fod yn achos o "ecsbloetiaeth cywilyddus".
Yn ystod yr achos clywodd y llys fod y chwech wedi bod yn ffigyrau allweddol wrth redeg cwmni Luis Michael Training Ltd, wnaeth hawlio dros £5m o arian grantiau rhwng 2009 a 2011.
Roedd yr arian o Lywodraeth y DU wedi ei glustnodi ar gyfer cyrsiau i brentisiaid ifanc, yn benodol o gefndiroedd difreintiedig oedd ddim mewn addysg na swydd.
Byddai'r cwmni'n cael yr arian grant gan golegau addysg gyda'r addewid y byddan nhw'n rhoi hyfforddiant yn y byd pêl-droed i filoedd o bobl ifanc.
Ond mewn gwirionedd roedd llawer o'r 3,000 o brentisiaid gafodd eu cofrestru yn rhai ffug, a doedd eraill ddim yn cael eu talu, cael digon o hyfforddiant, na derbyn cymhwyster ar y diwedd.
Roedd 26 o glybiau ar hyd a lled Cymru ymysg dwsinau gafodd eu henwi yn y llys fel rhai roedd y cwmni wedi eu defnyddio fel rhan o'u twyll.
Cafwyd Aizlewood, Sugrue, a Keith Anthony Williams, 45 o Ynys Môn, i gyd eu canfod yn euog o gynllwynio i dwyllo, ac fe gafwyd Jack William Harper, 30 o Lannau Mersi, yn euog o dwyll a defnyddio dogfen ffug.
Roedd dau ddyn arall - Steve Gooding a Chris Martin - eisoes wedi cyfaddef eu rhan nhw yn y twyll.
Cafodd Williams ei ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar, tra bod Martin wedi'i ddedfrydu i bum mlynedd a thri mis.
Cafodd Harper ei ddedfrydu i 18 mis, ac fe gafodd Gooding 20 mis o garchar.
Roedd Aizlewood eisoes wedi cael ei ddiswyddo fel rheolwr Clwb Pêl-droed Caerfyrddin - sydd ar hyn o bryd yn y ddau safle gwaelod yn Uwch Gynghrair Cymru - yn dilyn yr euogfarn.
"Hoffwn bwysleisio nad oedd y clwb yn ymwybodol o'r twyll a heb fod yn rhan o'r ymchwiliad," meddai'r clwb mewn datganiad ar y pryd.
Straeon perthnasol
- 5 Chwefror 2018
- 5 Chwefror 2018