Oedi casgliadau biniau bob pedair wythnos yng Nghonwy
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr yng Nghonwy wedi pleidleisio na ddylid dechrau ar gasgliadau biniau bob pedair wythnos, nes bod mesurau mewn lle i gynorthwyo trigolion gyda'r system newydd.
Fe glywodd cyfarfod cyngor llawn fore Llun na ellid newid y penderfyniad i gasglu'r gwastraff bob pedair wythnos, am o leiaf chwe mis, gan mai ym mis Ionawr y cymeradwyodd y cabinet y cynnig.
Conwy fydd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru a Lloegr i gyfyngu casgliadau gwastraff i bob pedair wythnos.
Clywodd y cyfarfod fod disgwyl i'r system newydd fod yn ei lle ar gyfer pob cartref yn y sir erbyn Gorffennaf 2018, Ond mynegodd rhai cynghorwyr bryderon fod y newidiadau'n golygu y bydd mwy o bobl yn cael trafferthion gyda biniau'n llenwi cyn iddynt gael eu gwagio.
Mesurau ychwanegol
Mae Cyngor Conwy wedi cynnig cyflwyno mesurau ychwanegol i helpu trigolion i ymdopi â chasgliadau bob pedair wythnos, megis casglu un eitem fawr y flwyddyn am ddim, ac eraill am £5 y tro.
Maent hefyd yn cynnig cyflwyno casgliadau ychwanegol yn ystod cyfnod y Nadolig.
Ond dywedodd y Cynghorydd Ronnie Hughes o wrthblaid y cyngor (Llafur) nad yw'r sir yn barod i gasgliadau biniau bob pedair wythnos, a galwodd am oedi nes bod yr holl gymorth ychwanegol ar waith, a hyd nes y bydd pobl wedi cael cyfle i gael gwybod beth sy'n digwydd.
"Bydd 18 mis o anhrefn. Byddwn ni'n gorfodi rhywbeth ar bobl, a byddant yn gwrthod cydymffurfio," meddai.
Ychwanegodd ei gyd-aelod Llafur, Mike Priestley: "Nid yw'r amser ar gyfer y casgliadau pedair wythnos yn iawn. Mae Gorffennaf yn rhy fuan. Mae ymgyrch hyrwyddo enfawr i'w wneud yn gyntaf."
Wedi dweud hyn, dywedodd arweinydd y cyngor, Gareth Jones, fod angen i'r sir "ailgylchu mwy" ac "arbed arian".
"Rydym wedi ein gwthio i gornel gyda'r dreth tirlenwi. Mae £2.5m yn cael ei daflu i'r ddaear gan yr awdurdod oherwydd y dreth tirlenwi... ac rydym newydd dorri £2.4miliwn o gyllidebau addysg a gwasanaethau cymdeithasol."
Cafodd y cynnig gan 24 o bleidleisiau i 18 gyda thri yn ymatal, gyda galwadau ar gabinet y cyngor i ailystyried cyflwyno'r system nes eu bod yn gwbl fodlon fod "yr holl fesurau addysg, cyfathrebu a lliniaru ar waith".
Straeon perthnasol
- 5 Rhagfyr 2017
- 20 Tachwedd 2017
- 11 Ionawr 2018