Cytundeb newydd dwy flynedd i reolwr Caerdydd Neil Warnock

Neil Warnock Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Neil Warnock gymryd drosodd fel rheolwr Caerdydd ym mis Hydref 2016

Mae rheolwr Caerdydd, Neil Warnock, wedi arwyddo cytundeb newydd dwy flynedd gyda'r clwb.

Fe ddaeth Warnock sy'n 69 oed yn rheolwr yr Adar Gleision ym mis Hydref 2016, ac mae'r clwb ar hyn o bryd yn ail yn y Bencampwriaeth.

Mae perchennog y clwb, Vincent Tan, yn croesawu'r newyddion.

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi dod i gytundeb ac rydym yn edrych ymlaen at ddod a mwy o lwyddiant i Glwb Pêl-droed Caerdydd," meddai.

Yn ogystal â Neil Warnock, mae'r is-hyfforddwr, Kevin Blackwell a'r hyfforddwr tîm cyntaf, Ronnie Jepson hefyd wedi ymestyn eu cytundebau.

Mae tîm pêl droed Caerdydd bedwar pwynt yn uwch na Aston Villa sydd yn drydydd yn y Bencampwriaeth, a bydd yr Adar Gleision yn chwarae oddi cartref yn Brentford ddydd Sadwrn.

Pynciau Cysylltiedig