Cwpan FA Lloegr: Abertawe 2-0 Sheffield Wednesday

Jordan Ayew Image copyright Reuters
Image caption Jordan Ayew a ddaeth ymlaen fel eilydd ar ddechrau'r ail hanner gafodd ei enwi'n seren y gêm

Mae Abertawe drwodd i rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr am y tro cyntaf ers 1964 ar ôl ennill gartref yn erbyn Sheffield Wednesday o 2-0.

Dyma'r ail waith i'r ddau dîm gwrdd ar ôl i'r gêm gyntaf orffen yn ddi-sgor yn Hillsborough yn gynharach yn y mis.

Roedd niferoedd y cyfleodd yn yr hanner cyntaf i'r naill dîm yn debyg iawn i'r tymheredd yn Abertawe - isel.

Fe wnaeth rheolwr yr Elyrch, Carlos Carvalhal ddod a dau eilydd, Jordan Ayew a Martin Olsson i'r maes ar gyfer yr ail hanner, wnaeth newid y gêm.

Wedi 55 munud roedd Ayew yn y fan ar lle i sgorio'r gôl gyntaf.

Britton yn ei ôl

Fe wnaeth ergyd bwerus Tom Carroll daro'r ddau bostyn ac fe ddisgynnodd y bêl yn garedig i Ayew i roi Abertawe ar y blaen.

Fe gafodd golwr Abertawe, Nordfeldt noson dawel rhwng y pyst, a gyda 10 munud yn weddill fe wnaeth yr Elyrch ddyblu'r fantais.

Tammy Abraham wnaeth basio'n berffaith i lwybr Nathan Dyer ac fe lwyddodd yr asgellwr i osod y bêl dan gorff golwr Wednesday ac i gefn y rhwyd.

Gyda saith munud yn weddill o'r gêm roedd cefnogwyr Abertawe ar eu traed wrth i Leon Britton wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb ers mis Hydref.

Bydd rhaid i Abertawe ddisgwyl tan nos Fercher i wybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr nesaf, wrth i Tottenham a Rochdale chwarae eto wedi' i'r gêm gyntaf orffen yn gyfartal.