Cyhuddo dyn o ddynladdiad wedi ymosodiad ym Maesteg

  • Cyhoeddwyd
MaestegFfynhonnell y llun, Google

Mae dyn 44 oed o Lanhari wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad yn dilyn ymosodiad angheuol ym Maesteg yn 2017.

Mae Jeffrey Shepherd wedi bod ar fechnïaeth ers y digwyddiad.

Mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener 30 Mawrth.