Apel heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd yr heddlu eu galw toc cyn 17:00 i wrthdrawiad 'difrifol' ar Ffordd Casnewydd

Mae'r heddlu yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad angheuol ar Ffordd Casnewydd, Caerdydd nos Fawrth.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 16:50 ac mae'r heddlu'n credu bod car Corvette arian wedi gwrthdaro gyda Ford Focus glas a Mercedes C220 oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall.

Bu farw dyn 23 oed oedd yn gyrru'r Corvette ac mae dynes 23 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Fe wnaeth gyrrwr arall 28 oed ddioddef anaf i'w droed.

Cafodd neb arall ei hanafu ac mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.