Tîm Cymru'n cyhoeddi enwau llysgenhadon Gemau'r Gymanwlad

Cyhoeddwyd
Becky James a Christian MalcolmFfynhonnell y llun, TIM GEMAU GYMANWLAD CYMRU
Disgrifiad o’r llun,
Dywed Becky James a Christian Malcolm eu bod yn falch o'r anrhydedd

Gyda llai na 40 diwrnod cyn dechrau Gemau'r Gymanwlad yn Awstralia, mae tîm Cymru wedi cadarnhau mai'r seiclwr Becky James a'r cyn-athletwr Christian Malcolm fydd eu llysgenhadon swyddogol.

Fel rhan o'u dyletswyddau fe fydd y ddau yn rhannu eu profiadau yn y gobaith o ysbrydoli aelodau'r garfan fydd yn cystadlu yn ninas Gold Coast.

Roedd disgwyl iddyn nhw fod yn rhan o ddigwyddiad swyddogol yn Stadiwm y Principality Caerdydd ddydd Iau i ffarwelio'n swyddogol â'r tim, ond bu'n rhaid ei ganslo oherwydd y tywydd garw.

Mae tîm Cymru yn mynd â 209 o athletwyr a mwy na 100 o staff i Awstralia ar gyfer y gemau sy'n dechrau ar 4 Ebrill ac yn gorffen ar 15 Ebrill.

Ffynhonnell y llun, Bryn Lennon
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Becky James fethu Gemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow oherwydd anaf

Dywedodd Becky James, ennillydd medal aur dwbl Olympaidd a chyn feiciwr trac Cymru, ei bod yn falch iawn o gael cefnogi'r athletwyr eleni ar ôl i anaf ei hatal rhag bod yn rhan o garfan Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014.

"Does dim byd tebyg i Gemau'r Gymanwlad ac rwy'n siŵr bod yr holl athletwyr yn gyffrous ac yn nerfus iawn yn y mis sy'n rhedeg lan at y Gemau," dywedodd.

"Fy nghyngor fyddai i ganolbwyntio, paratoi fel y byddwch fel arfer ond yn fwy na dim - mwynhewch y profiad."

Fel gwibiwr fe wnaeth Christian Malcolm gystadlu mewn pedwar o Gemau'r Gymanwlad, gan ennill y fedal arian yn ras y 200m yn Kuala Lumpur yn 1998 a'r fedal efydd yn yr un gamp yn Delhi yn 2010.

Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Christian Malcolm gystadlu mewn pedwar o Gemau'r Gymanwlad

Yn 2017 fe enillodd wobr yr hyfforddwr gorau yng ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yng Nghymru, ac fe roedd yn un o dri a enillodd y wobr gyfatebol ar draws y DU ar ôl helpu gwibwyr Prydain i gipio'r fedal aur yn ras 4x100m y dynion ym mhencampwriaeth athletau'r byd.

Dywedodd: "Mae cynrychioli Cymru yn gyfle mor arbennig ac rwy'n falch iawn o allu cefnogi'r tîm - nid yn unig fel hyfforddwr ond hefyd fel llysgennad.

"Gyda phrofiad, rydw i wedi dysgu bod angen credu'n gryf iawn yn eich gallu i berfformio ac mae angen mwynhau'r profiad.

"Mae gwisgo'r ddraig ar eich crys yn achlysur bythgofiadwy - mae'n ymwneud â bod yn un tîm sydd yn ysbrydoli cenedl nôl adref."