Tywydd garw yn arwain at ohirio Eisteddfodau yr Urdd
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ail-drefnu eisteddfodau cylch yr Urdd oherwydd yr eira

2 Mawrth 2018 Diweddarwyd 08:24 GMT

Roedd miloedd o blant i fod yn paratoi i gystadlu yn eisteddfodau cylch yr Urdd ar draws Cymru y penwythnos yma.

Ond oherwydd y tywydd garw, mae'r mudiad wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid ail-drefnu.

Mae'r manylion i'w gweld ar eu gwefan.

Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd yw Aled Siôn.