Storm yn difrodi cychod mewn harbwr
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Storm yn achosi difrod i gychod mewn harbwr ar Ynys Môn

2 Mawrth 2018 Diweddarwyd 13:33 GMT

Mae Gwylwyr y Glannau a'r heddlu'n cynghori pobl i gadw i ffwrdd o harbwr Caergybi wrth i wyntoedd cryfion ddifrodi cychod.

Mae difrod wedi ei achosi i o leiaf 18 o gychod, ar ôl iddyn nhw daro'i gilydd neu gael eu chwythu ar y creigiau, ac mae o leiaf 80 o gychod dan fygythiad.

Dyma'r olygfa yng Nghaergybi fore Gwener.