Tân yn achosi difrod mawr i hen wyrcws Caerfyrddin

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Tân difrifol mewn hen wyrcws yng Nghaerfyrddin (Fideo Gareth Jones)

Mae difrod mawr wedi'i achosi i adeilad hanesyddol yng Nghaerfyrddin yn dilyn tân.

Cafodd tua 20 o ddiffoddwyr eu galw i'r hen wyrcws ar Heol Brewery toc cyn 17:00 brynhawn Gwener.

Roedd y wyrcws, gafodd ei adeiladu yn Oes Fictoria, yn arfer bod yn ganolbwynt i derfysgoedd Merched Beca.

Fe wnaeth criwiau tân aros ar y safle nos Wener wedi i'r fflamau gael eu diffodd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol