Datganoli darlledu: Rhybudd am lai o arian i gwmnïau Cymru

Newyddion 9

Fe allai datganoli darlledu olygu llai o arian i gwmnïau sy'n gwasanaethu cynulleidfaoedd yng Nghymru, yn ôl un academydd yn y cyfryngau.

Dywedodd yr Athro Ruth McElroy y gallai'r ffi drwydded gael ei rhannu yn ôl poblogaeth Cymru, Lloegr yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Fe fyddai hynny'n golygu llai o arian i Gymru, gan mai dim ond 4.7% o boblogaeth y DU sy'n byw yng Nghymru.

Ond dywedodd yr Athro McElroy gallai pethau fod yn wahanol ar gyfer gwasanaethau iaith Gymraeg.

Y prif ddarlledwyr cyhoeddus sy'n gwasanaethu cynulleidfaoedd yng Nghymru yw'r BBC, ITV Cymru ac S4C.

Dywedodd yr Athro McElroy wrth raglen Sunday Politics Wales y byddai'n "aneglur beth fuasai'r fethodoleg ar gyfer codi arian" petai darlledu'n cael ei ddatganoli.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Angharad Mair yn galw am ddatganoli darlledu ar raglen Pawb a'i Farn yn ddiweddar

"Os ydyn ni'n cymryd y BBC fel enghraifft, ar hyn o bryd mae'n cael ei hariannu gan ffi drwydded sy'n cael ei dalu gan bawb," meddai.

"Un ffordd o wneud hynny fuasai i dorri hynny yn briodol i boblogaethau'r gwledydd gwahanol.

"Gallai hynny olygu y byddwn yn cael llai o arian i wario ar ddarlledu yng Nghymru

"Dwi'n credu o ran ymarferoldeb datganoli darlledu, mae rhaid iddo gael ei weithio drwyddo'n well gan y rheiny sy'n galw amdano."

Ond ychwanegodd y gallai pethau fod yn wahanol ar gyfer yr iaith Gymraeg.

"Fe allai Llywodraeth Cymru benderfynu, o gymryd y polisi o geisio cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, i roi mwy o arian i S4C," meddai.

Image caption Dywedodd yr Athro McElroy y gallai pethau fod yn wahanol ar gyfer gwasanaethau iaith Gymraeg

Dywedodd Dr Jamie Medhurst o adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth y buasai dod â darlledu dan ofal Llywodraeth Cymru yn ei osod mewn safle cystadleuol gyda chyllidebau eraill datganoledig.

"Ar hyn o bryd fe allwch ddadlau fod arian yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon [yn San Steffan] wedi'i ddiogelu, mae'n saff," meddai.

Mae Guto Harri ar fwrdd llywodraethol S4C, a dywedodd ei bod hi'n annhebygol y byddai'r cyllid ar gyfer darlledu yn cynyddu petai pwerau'n cael eu datganoli.

"Pan 'dych chi'n gweithio gyda chyllid cyfyngedig, ac yn edrych ar ddarlledu, dim ots pa mor bwysig, yn erbyn ysgolion, ysbytai a phethau eraill dyrys, yna mae'n annhebygol y byddai gwleidyddion sy'n wynebu eu hetholwyr pob wythnos yn penderfynu rhoi mwy o arian tuag at deledu a llai i ysgolion ac ysbytai," meddai.

Ond dywedodd AC Plaid Cymru Adam Price ei fod yn "siomedig iawn gweld ffigurau blaenllaw ym myd darlledu yn dadlau yn erbyn datganoli darlledu".

"Oni bai am fodolaeth Cymru fel cenedl fasai 'na ddim cyfryngau cenedlaethol Cymreig o gwbl," meddai ar Twitter.

"Anodd credu bod dadleuon o fudd sectoraidd yn cael eu rhoi o flaen anghenion Cymru gyfan."

Adroddiad

Mae'r BBC ac ITV Cymru yn cael eu goruchwylio gan gorff rheoleiddio cyfathrebu'r DU, Ofcom.

Mae gan y BBC ddyletswydd i gynhyrchu o leiaf 470 awr y flwyddyn o raglenni yn benodol i Gymru ar gyfer BBC One a Two, gyda 250 awr yn gorfod bod yn newyddion a materion cyfoes ar BBC One.

Mae ITV yn gweithredu ar un drwydded ar draws Cymru gyfan, ac mae'n rhaid iddyn nhw ddarparu pum awr a hanner o raglenni newyddion a materion cyfoes ar gyfer Cymru gyfan.

Fe ddaw'r rhan fwyaf o gyllid S4C o ffi drwydded y BBC ac o adran Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU.

Mae disgwyl i adroddiad annibynnol yn edrych ar fodel ariannu, gorchwyl a llywodraethiant S4C gael ei chyhoeddi'n fuan.

Ddydd Mawrth fe wnaeth Elfed Wyn Jones, ffermwr o Drawsfynydd, orffen ympryd wythnos o hyd fel rhan o ymgyrch i ddatganoli darlledu o Lundain i Fae Caerdydd.

Ddydd Mercher cafwyd dadl ar y mater yn y Cynulliad yn dilyn cynnig gan Blaid Cymru.

Bydd rhaglen Sunday Politics Wales yn cael ei dangos ar BBC One Wales am 11:00 ddydd Sul 4 Mawrth.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol