Dynes, 22, wedi ei lladd ar ôl cael ei tharo gan fws mini

Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4106 yn oriau man fore Sul

Mae dynes 22 oed wedi cael ei lladd yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhorthcawl yn oriau man y bore.

Dywedodd Heddlu'r De fod bws mini wedi taro cerddwr yn y gwrthdrawiad am tua 01:54 ar yr A4106, Ffordd Newton Nottage.

Maen nhw wedi apelio ar unrhyw un welodd y digwyddiad neu a welodd y cerbyd yn gyrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod yn dilyn y digwyddiad.