Cyhoeddi gemau rownd gynderfynol Cwpan Cymru

cwpan cymru

Mae'r enwau wedi'u tynnu allan o'r het ar gyfer rownd gynderfynol Cwpan Cymru.

Mae 'na dair gêm heb eu chwarae eto o'r rownd flaenorol, dim ond Bangor oedd yn sicr o'u lle yn y pedwar olaf ar ôl ennill o 7-0 yn erbyn Penydarren ddydd Sul.

Bydd enillwyr y gêm rhwng Cei Connah a'r Seintiau Newydd yn wynebu Bangor.

Bydd enillwyr Llandudno v Y Drenewydd yn erbyn enillwyr y gêm rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.

Mae gweddill y gemau gafodd eu gohirio dros y penwythnos o ganlyniad i'r tywydd yn cael eu chwarae nos Fawrth.

Ni fydd gan unrhyw dîm fantais o chwarae gartref yn y rownd gynderfynol gan fod y gemau i gyd ar gaeau niwtral.

Bydd y gemau yn cael eu chwarae ar benwythnos 7 neu 8 o Ebrill.