Dyn wedi marw'n ddamweiniol yn Yosemite

Yosemite Image copyright FACEBOOK/ANDREW A LUCY FOSTER

Clywodd cwest bod dyn o Gaerdydd wedi rhedeg at ei wraig wrth i'r ddau gael eu dal gan gerrig yn disgyn ym Mharc Cenedlaethol Yosemite yn California y llynedd.

Cafodd Andrew Foster, 32 oed, ei ladd yn y digwyddiad fis Medi 2017, a chafodd ei wraig Lucy ei hanafu'n ddifrifol.

Roedd y pâr, oedd yn byw yng Nghaerdydd, ar daith gerdded wythnos o hyd yn y parc cenedlaethol gyda phâr arall ar y pryd.

Fe gofnododd y crwner bod Mr Foster wedi marw'n ddamweiniol, a hynny wrth iddo achub ei wraig.

Fe glywodd y cwest bytiau o adroddiad a gafodd ei anfon gan y parc cenedlaethol, a oedd yn cynnwys adroddiadau gan lygaid dystion.

Roedd y llygaid dystion yn dweud fod gwraig Mr Foster, Lucy, wedi dweud wrthyn nhw bod ei gŵr "wedi achub ei bywyd".

Dywedodd llygaid dystion fod cerrig "maint ceir" wedi cael eu gweld yn syrthio y diwrnod hwnnw.

Image copyright Llun teulu
Image caption Roedd Andrew Foster yn gweithio mewn siop offer awyr agored yng Ngaherdydd.

"Fe waeddodd Andrew ar Lucy iddi ddechrau rhedeg, ond wrth iddi redeg fe syrthiodd hi a dechreuodd cerrig lanio o'i chwmpas" meddai'r adroddiad.

"Ar ôl gweiddi ar Lucy, a'i gweld hi'n syrthio, fe benderfynodd Andrew fynd ati, a gorwedd ar ei phen hi er mwyn rhwystro'r cerrig rhag glanio arni."

Wrth i'r llwch ostegu, gwelodd Mrs Foster bod ei gŵr bellach yn gorwedd wrth ei hochr, ond nad oedd yn symud.

Clywodd y cwest fod archwiliad post mortem a gafodd ei gynnal yn yr Unol Daleithiau wedi dod i'r casgliad fod Mr Foster wedi marw o ganlyniad i anafiadau i'w ben.

Straeon perthnasol