Unigolyn yn y ddalfa wedi digwyddiad ger Sanclêr

Sancler Image copyright Aled Llywelyn
Image caption Roedd yna bresenoldeb heddlu trwm ar ffordd yr A4066 rhwng Sanclêr a Thalacharn

Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud bod unigolyn yn y ddalfa wedi digwyddiad yn ardal Sanclêr ddydd Mawrth.

Roedd 'na adroddiadau fod nifer o gerbydau'r heddlu ar y ffordd rhwng Talacharn a Sanclêr nos Fawrth.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu: "Mae uned arbennig wedi ei sefydlu yng ngorsaf heddlu Caerfyrddin.

"Mae un person yn y ddalfa ac mae'r ymholiadau'n parhau."

Cadarnhaodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi eu galw i Fferm Broadmoor ger Sanclêr tua 17:55 brynhawn dydd Mawrth.

Ychwanegodd llefarydd nad oedd unrhyw un wedi ei gludo i'r ysbyty, a chafodd parafeddygon eu hanfon o'r safle am 19:50.

Image copyright Aled Llywelyn

Dywedodd Graham Hollis, sy'n rhedeg busnes teiars ceir gerllaw wrth BBC Cymru fod presenoldeb heddlu trwm yn yr ardal: "Roedd tua saith neu wyth cerbyd i ddechrau, gan gynnwys uned cŵn, a cherbyd ymateb cyntaf y gwasanaeth ambiwlans.

"Cafodd Fferm Broadmoor gyferbyn ei chau gan yr heddlu yn ddiweddarach, a doeddech chi ddim yn gallu gweld dim ond goleuadau glas yn fflachio.

"Dw i ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd, ond mae'n edrych yn eitha difrifol.

"Dw i wedi byw yma ers 1976, er dw i ddim yn gwybod pwy sy'n byw ar y fferm gyferbyn."