Mark Drakeford
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cronfa gofal: 'Angen diogelu'r arian'

7 Mawrth 2018 Diweddarwyd 22:36 GMT

Mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford, yn dweud ei fod yn ystyried cyflwyno treth ar incwm pobl i ariannu gofal i bobl hŷn yn y dyfodol.

Mae Mark Drakeford wedi dweud ei fod wedi dechrau trafodaethau gyda'r Trysorlys ynglŷn â system yswiriant gorfodol yng Nghymru.

Ond mae'n dweud bod nifer o "gymhlethdodau" angen eu datrys cyn i'r syniad ddod yn realiti.