Cyhoeddi rhestr o bwerau i'w cadw yn Llundain wedi Brexit

defaid Image copyright Getty Images

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rhestr o'r meysydd datganoledig ble maen nhw eisiau sefydlu trefniadau DU-gyfan yn dilyn Brexit.

Daw hynny wedi i Lywodraeth Cymru eu cyhuddo o geisio "cipio pwerau", ac ymgais i gyflwyno deddfwriaeth amgen ym Mae Caerdydd.

Mae gweinidogion yn Llundain eisiau cadw pwerau dros dro mewn 24 maes gan gynnwys iechyd anifeiliaid, labelu bwyd, a rheoleiddio cemegau.

Ond maen nhw'n dweud y bydd y rhan fwyaf o'r pwerau yn y meysydd datganoledig yn mynd yn syth i Gaerdydd a Chaeredin.

'Pwerau sylweddol'

Mae gweinidogion Cymru a'r Alban wedi bod yn dadlau a Llywodraeth y DU dros eu deddfwriaeth Brexit, oedd yn wreiddiol wedi awgrymu y byddai'r holl bwerau mewn meysydd datganoledig sydd ar hyn o bryd gan yr UE yn dychwelyd i San Steffan yn gyntaf.

Bellach mae gweinidogion y DU wedi cytuno y bydd y rhan fwyaf o bwerau'n cael eu datganoli, ond dyw hynny chwaith ddim wedi plesio'r llywodraethau yng Nghaerdydd a Chaeredin.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, David Lidington fod y rhestr lawn wedi ei chyhoeddi er mwyn bod yn agored a thryloyw.

"Mae hyn yn dystiolaeth gadarn y bydd Bil Ymadael yr UE yn darparu pwerau sylweddol newydd i'r llywodraethau datganoledig yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon," meddai.

Image copyright Getty Images
Image caption Dywedodd David Lidington y byddai'r rhan fwyaf o bwerau yn mynd yn syth i'r llywodraethau datganoledig

"Mae'r rhestr 'dyn ni wedi'i chyhoeddi heddiw yn dangos faint o bwerau UE sydd yn cael eu rheoli gan Frwsel fydd, ar ôl Brexit, yn cael eu rheoli gan y seneddau a chynulliadau yng Nghaeredin, Caerdydd a Belfast.

Ychwanegodd y byddai'r rhan fwyaf o bwerau yn dychwelyd i'r gwledydd hynny yn syth, ond fod "grŵp llawer llai o bwerau" ble byddai'n rhaid parhau dilyn rheolau'r UE am gyfnod cyn i'r DU allu torri ei chwys ei hun.

"Rydyn ni'n trafod gyda'r llywodraethau datganoledig sut fydd y broses honno'n gweithio ond, fel Llywodraeth y DU, rydyn ni'n teimlo'n gryf fod angen i ni gael y gallu i warchod marchnad fewnol y DU sydd yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol i bawb yn y DU."

Mae disgwyl i brif weinidogion Cymru a'r Alban, Carwyn Jones a Nicola Sturgeon, gynnal trafodaethau gyda'r Prif Weinidog Theresa May yr wythnos nesaf.

Straeon perthnasol