Gwobr rheolwr y mis yn Y Bencampwriaeth i Neil Warnock

Neil Warnock
Image caption Fe wnaeth Neil Warnock arwyddo cytundeb newydd dwy flynedd gyda Caerdydd ddiwedd mis Chwefror

Mae rheolwr Caerdydd, Neil Warnock wedi cael ei enwi'n rheolwr y mis yn Y Bencampwriaeth ar gyfer mis Chwefror.

Mae Warnock, wnaeth arwyddo cytundeb newydd dwy flynedd gyda'r clwb bythefnos yn ôl, wedi arwain Caerdydd i'r ail safle yn y gynghrair.

Yn Chwefror fe wnaeth yr Adar Gleision ennill 16 pwynt allan o 18 posib, gan ennill pum gêm yn olynol ac ildio dim ond dwy gôl yn y broses.

Dydyn nhw ddim wedi colli yn y gynghrair ers dydd calan, a byddan nhw'n wynebu Birmingham gartref ddydd Sadwrn.

Straeon perthnasol