Tân mewn ffatri ailgylchu ar Lannau Dyfrdwy

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Diffoddwyr tân yn mynd i'r afael a thân mawr mewn canolfan ailgylchu ar Lannau Dyfrdwy

Mae diffoddwyr tân wedi bod yn gweithio dros nos er mwyn ceisio rheoli tân mewn canolfan ail-gylchu yn Sir y Fflint.

Dechreuodd y tân am 8 o'r gloch nos Wener, ac ar un adeg roedd dros 30 o ddiffodwyr ar y safle ar Factory Road, Sandycroft, Glannau Dyfrdwy.

Yn ôl y gwasanaeth tân mae matresi a phentyrrau o wastraff tŷ ynghyn ar safle o flaen y prif adeilad.

Roedd y timau yn parhau ar y safle brynhawn dydd Sadwrn yn ceisio rhwystro'r fflamau rhag ail-gydio.