Cyflymu'r broses o wirio gwirfoddolwyr yn y Gymraeg
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cyflymu'r broses o wirio gwirfoddolwyr yn y Gymraeg.

10 Mawrth 2018 Diweddarwyd 19:18 GMT

Fe ddylsai gwasanaeth digidol newydd gyflymu'r broses o wirio cefndir troseddol gwirfoddolwyr trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl Cymdeithas Chwaraeon Cymru.

Ar hyn o bryd, mae'r broses o wneud cais i edrych ar hanes troseddol drwy gyfrwng Saesneg yn llawer cynt na drwy'r Gymraeg.

Y gobaith ydi y bydd y drefn ddigidol newydd yn prosesu ceisiadau Cymraeg mewn 48 awr.

Gareth Pennant o dîm Newyddion 9 sy'n crynhoi'r stori.