Darganfod corff yn Rhosneigr ger arfordir Ynys Môn

heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio ar ôl i gorff gael ei ddarganfod ger arfordir Ynys Môn.

Cafodd y corff ei ddarganfod yn ardal Tŷ Croes brynhawn Sadwrn.

Mae'r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol.

Dydy'r heddlu ddim yn rhyddhau unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd.

Pynciau Cysylltiedig